Elliw Williams
Sefydlodd Elliw ATOM yn 2002 pan oedd hi'n 22 oed ac o fewn ychydig fisoedd, roedd hi'n cynghori Microsoft ar eu cynlluniau lleoleiddio ac yn trefnu cynhadledd ryngwladol i un o ASEau Cymru. Mae ganddi radd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol, gradd meistr mewn Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru a Diploma Ôl-raddedig mewn PR. Mae'n aelod o Sefydliad Siartredig Cysylltiadau Cyhoeddus (CIPR). Cafodd ei phenodi yn aelod o Fwrdd Ymghynghorol cyntaf Marie Curie yng Nghymru ac mae hefyd yn eistedd ar bwyllgor BAFTA Cymru yn y gogledd.
Mae Elliw yn credu'n gryf mewn ysbrydoli pobl ifanc, ac mae'n un o fodelau rôl rhaglen Syniadau Mawr Cymru Llywodraeth Cymru. Fel person busnes ifanc ei hun, enillodd Elliw wobr Person Ifanc y Flwyddyn Menter a Busnes yn 2004 a gwobr Shell Livewire Cymru yn 2003. Ymddangosodd fel un o'r beirniad ar 'Fi yw'r Bos' ar S4C, sef rhaglen i hyrwyddo entrepreneuriaeth ymhlith pobl ifanc.